Polisïau a’r Cynllun Plwyfol
Y Cynllun Plwyfol 2008-2013
Mae Cyngor Cymuned Llannon yn ddiweddar wedi comisiynu Menter Cwm Gwendraeth i ymgymryd â Chynllun Plwyfol er mwyn sicrhau bod Aelodau yn ymwybodol o anghenion y gymuned leol. Roedd rhan gyntaf y Cynllun Plwyfol yn cynnwys Adolygiad Llawn o nodweddion cymdeithasol ac economaidd Ardal y Cyngor Cymuned, datblygu cronfa ddata gynhwysfawr o fanylion cyswllt rhanddeiliaid a thrafod gydag adrannau perthnasol o fewn y Cyngor Sir. Mae’r wybodaeth a gasglwyd trwy gydol y broses yn cael ei chynnwys ym Mhapur Prif Faterion Cyfnod 1 ar gyfer Cyngor Cymuned Llannon. Gweler adroddiad Cam 1 yma
Roedd ail ran y Cynllun Plwyfol yn cynnwys trefnu, marchnata a chynnal tri ymgynghoriad cymunedol o fewn Ward Llannon er mwyn cael syniad o farn y cyhoedd ar ystod eang o faterion sy’n effeithio ar fywydau trigolion lleol. Paratowyd adroddiad sy’n cynnwys yr holl wybodaeth a gasglwyd o’r broses ymgynghori. Gweler Adoddiad llawn Cam 2 yma a gweler adroddiad cam 2 (crynodeb) yma
Cynhaliwyd yr Ymgynghoriadau Cymunedol ar 11eg, 17eg a 26ain Chwefror 2009 yn Neuadd Y Tymbl, Neuadd Ysgol Gynradd Llannon a Chlwb y Gweithwyr Cross Hands. Gallwch weld rai o luniau’r digwyddiadau isod:

Roedd rhai o’r prif faterion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriadau yn cynnwys Ailgylchu a Rheoli Gwastraff, Trafnidiaeth Gyhoeddus a Chysgodfannau Bws, Ardaloedd Gwyrdd, Llwybrau Ceffyl a Llwybr Beicio, yr angen am Gyfleuster Cymunedol Amlbwrpas, yr angen am Gyfleusterau Chwarae a Hamdden, Parciau a chefnogaeth ar gyfer reolaeth barhaus Mynwent Gyhoeddus Tymbl Uchaf a Chynllun Basgedi Crog y Cyngor.
Darpariaeth Prosiectau'r Cynllun Plwyfol
Mae’r Cyngor yn defnyddio’r ymgynghoriad cymunedol i ddarparu prosiectau a ffurfiwyd is-bwyllgor ym Medi 2009 i ymdrin â rhai o’r prif faterion. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn Rhaglen Gyflwyno’r Cynllun Plwyfol a gytunwyd gan y Cyngor ym Medi 2009.
Fe apwyntiwyd Harrisons Ltd yn Medi 2010 i ddatblygu strategaeth adfywio i'r Tymbl. Mae gwaith yn mynd yn ei flaen i weithredu'r amcanion yn y strategaeth. I weld y strategaeth cliciwch yma os gwelch yn dda.
Mae'r grwp hefyd yn tynnu lan rhaglen waith ar gyfer Llannon a Cross Hands ac yn edrych ar faterion fel bandeang cymunedol.
Os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Clerc.
Polisïau a gwybodaeth ychwanegol
Mae mabwysiadu polisïau allweddol megis Polisi’r Iaith Gymraeg, Polisi Cyfleoedd Cyfartal a Chydraddoldeb Hiliol, y datganiad cydraddoldeb anabledd a’r Polisi Iechyd a Diogelwch yn golygu bod y Cyngor yn parhau i gydymffurfio â gyrwyr polisi o fewn y llywodraeth leol. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Clerc.
Cod Ymddygiad
Polisi Cwynion
Datganiad Cydraddoldeb Anabledd
Datganiad Polisi Cyfleoedd Cyfartal
Polisi Iechyd a Diogelwch
Polisi Iechyd a Diogelwch - diweddariad Tach. 2011 er mwyn enwi y Clerc newydd ynddi
Cynllun Cyhoeddi
Polisïau Staff
Rheolau Sefydlog
Rheolau Sefydlog (diweddariad Mawrth 2010)
Polisi’r Iaith Gymraeg
Polisi'r Iaith Gymraeg (diweddariad Tachwedd 2010)