Neuadd Y Tymbl - Canolfan Cymunedol                       Cyfarfodydd, bwyta, achlysuron chwaraeon, priodasau a partioedd preifat

 

Tumble Hall 

 
I weld fwydlen a opsiynnau pris y Neuadd cliciwch yma.

Y Cyngor Cymuned sy’ berchen ar Neuadd Y Tymbl ac sy’n ei rheoli. Mae’r Neuadd yn lleoliad amrywiaeth o ddigwyddiadau preifat, cyfarfodydd cyhoeddus, a chynaldeddau. Mae hefyd yn gartref i Lyfrgell Gyhoeddus Y Tymbl.

Mae’r Lleoliad hwn yng Nghwm Gwendraeth, Sir Gaerfryddin, 5 munud yn unig o bentref Cross Hands a’r A48. Mae’n cynnig bar trwyddedig ac ystafell fawr all ddarparu lle ar gyfer 200+ o seddau lle gellir eistedd i fwyta.Gall ein tîm arlwyo mewnol ddarparu bwydlen wedi ei llunio’n arbennig i ateb eich gofynion. Mae yna gyfleusterau parcio arbennig ar gael, ac mae yna daflunydd a system sain fodern wedi eu gosod. Mae’r Neuadd yn lleoliad delfrydol ar gyfer siaradwyr gwâdd, nosweithiau cyflwyno, ciniawau diwedd tymor sefydliadau chwaraeon, digwyddiadau codi arian, prydau bwyd a phartion preifat (yn cynnwys priodasau.)  Mae’r Neuadd hefyd yn lleoliad perffaith ar gyfer chwaraeon dan do ac mae’n gartref i Gystadleuaeth Dartiau Agored Cwm Gwendraeth, sy’n cael ei chynnal yn flynyddol. Yn ogystal, mae’n un o’r lleoliadau prin yn y sir sydd â thrwydded lawn ar gyfer cynnal adloniant bocsio a reslo.

Mae gan y Neuadd drwydded gyflwawn ar gyfer 7 niwrnod yr wythnos ac mae nifer yn ei llogi ar gyfer dawnsfeydd Country and Western, partion preifat, achlysuron priodas/bedydd, cyfarfodydd grwpiau cymunedol, ciniawau chwaraeon/nosweithiau cyflwyno, Clwb Cinio i bobl dros 60 oed, Cyfle i Bawb, Zumba, grŵp Weight Watchers a’r Clwb ieuenctid. Mae’r Neuadd yn lleoliad delfrydol ar gyfer cynnal eich parti penblwydd/parti priodas neu ddigwyddiadau arbennig, a gall ein tîm arlwyo mewnol ddarparu bwydlen a fydd yn ateb eich gofynion.

Cynnigir defnydd o’r Neuadd am bris gostyngl/yn rhad ac am ddim  i achosion da yn lleol, ac rydym yn falch i ddarparu’r Neuadd yn rhad ac am ddim i achosion fel Ymchwil Cancr Macmillan a Chanolfan Deuluol Y Tymbl, ar gyfer eu gweithgareddau codi arian.

 

Tumble Hall  - Wedding venue Tumble Hall - Wedding venue Tumble Hall - Private functions Tumble Hall - Function rooms Tumble Hall meeting facilities

Tumble hall facilities Tumble Hall conferences

 

Clwb Cinio i'r henoed- Clwb Cinio a Chlonc

Mae'r Clwb yn cael ei rhedeg can y Cyngor Cymuned. Croeso i bawb i fynychu bob bore Mawrth a Iau. Ceir pryd o fwyd cynnes a hefyd gwasanaethau megis gofael traed. Am fwy o wybodaeth cysylltwch efo Mandy ar 01269 844 780.

Clinig gofal traed (gan gynnwys torri bysedd traed)

Mae cling newydd ar gael yn y Neuadd - ffoniwch 01554 744 896 i neud apwyntiad.

Cyfleusterau arlywio bwyd a gegin y Neuadd
Mae'r gegin yn cael ei rhedeg gan dim coginio'r Neuadd - cysylltwch a Mandy Owen ar 01269 844 780 i drafod eich anghenion. Bwyd twym (2-3 cwrs neu bwffet twym/oer ar gael).

Nodir os gwelwch yn dda fod dim hawl gan llogwyr y neuadd i baratoi bwyd neu/a te-coffi yn y gegin.

Dathliadau priodas a partioedd preifat
Mae gan y neuadd drwydded lawn am 7 diwrnod yr wythnos ac y mae'n leoliad ddelfrydol ar gyfer eich achlysur arbennig. Cysylltwch a ni i drafod eich anghenion.
I weld fwydlen a opsiynnau pris y Neuadd cliciwch yma.

 

Bwcio a rhagor o wybodaeth

Os hoffech logi’r neuadd, lawrlwythwch Ffurflen Gais Llogi Neuadd Y Tymbl ac anfonwch y ffurflen wedi’i chwblhau, ynghyd â’r deposit angenrheidiol at Mr Owain Enoch, 5 Heol Rhosybonwen, Cefneithin, Llanelli, Sir Gar, SA14 7DJ. Sieciau yn daladwy i Gyngor Cymuned Llannon.

Mae ffioedd llogi’r Neuadd wedi’u nodi yn  Ffioedd Llogi’r Neuadd 2010-2011. Mae'n angenrhediol eich bod yn cymryd ychydig o amser i ddarllen Amodau Llogi Neuadd Tymbl o flaen llaw. I weld fwydlen a opsiynnau pris y Neuadd cliciwch yma.

Am rhagor o wybodaeth, neu i archebu’r neuadd drwy

galwad ffon, cyslltwch â:


Mrs Diane Davies : 01554 778 641 diane@ccllannon.org.uk

Gofalydd: Dai Woods - 07792 047 623

Mrs Mandy Owen (bwyd a clwb cinio) 01269 844 780. I weld fwydlen a opsiynnau pris y Neuadd cliciwch yma.

Rhif ffon y neuadd yw 01269 841 213.

 

Hysbysebion Cyhoeddus a newyddion o'r Neuadd Mawrth 2012

*Clwb Cinio yn agor ar Dydd Mercher*

Mae'r Clwb poblogaidd nawr ar agor 3 diwrnod yr wythnos.

*Oriau agor newydd Llyfyrgell y Tymbl - Chwefror 2012*

Cliciwch yma am yr oriau newydd

*Noson Calan 2011*

Fe gynhaliwyd noswaith i gofio - diolch i bawb a daeth i'r Neuadd.

*Gwyl Ddartiau Cwm Gwendraeth - Hydref 15 2011*

Fe gynhaliwyd y cystadleuaeth flynyddol yn y Neuadd gyda pot arian o £1,500 mewn lle. Cliciwch yma am rhagor

*Sioe Bocsio Clwb Bocsio Trostre - Tachwedd 4 2011 - cliciwch yma am fwy o wybodaeth*

Fe gynhaliwyd sioe arbennig pris tocynnau oedd £15 yn cynnwys bwyd.

*Llyfyrgell y Tymbl*

Cliciwch yma am wybodaeth ar y llyfyrgell

*Gorffennaf 31 hyd at Awst 12 2011 - Neuadd y Tymbl*

Fe fydd bach o angyfleustra yn y Neuadd dros y cyfnod yma gan ei fod yn cael ei adnewyddu. Ymddiheuriadau am hyn.

*Swydd gwag - Neuadd y Tymbl*

Roedd y Cyngor Cymuned yn edrych am aelod o staff i weithio yn Gegin Y Neuadd. Mae'r dyddiad cau nawr wedi pasio. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

Bagiau sbwriel glas ailgylchu a sachau gwastraff o'r ardd ar gael yn Neuadd y Tymbl

Mae Cyngor Cymuned Llannon wedi dod i gytundeb gyda’r Cyngor Sir i sicrhau fydd Neuadd y Tymbl yn darparu bagiau ailgylchu glas ac yn gwerthu sachau gwastraff o’r ardd.

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma

Hysbyseb pwysig ynglyn â dyfodol Llyfyrgell y Tymbl a datblygu gwasanaeth wedi ei arwain gan wirfoddolwyr yn Neuadd y Tymbl

Cliciwch yma os gwelwch yn dda am hysbyseb pwysig ynglyn â dyfodol y Llyfyrgell

Buddsoddiad yn Neuadd y Tymbl yn 2011

Gwnaeth y Cyngor Cymuned daraparu pecyn buddsoddiad uchelgeisiol yn Neuadd y Tymbl yn 2011.Roedd y pecyn yn cynnwys ail fampio'r brif neuadd a'r fynedfa, ail fampio'r toiledau, gwella mynediad i'r anabl a budsoddi yn y system wresogi/boiler. Gaeth y pecyn ei gefnogi gan grant o £50,000 gan Gronfa Gymunedol ac Amgylcheddol Cwm Environmental sy'n cael ei ddaparu gan Cwm Environmental Cyf. a'i weinyddu drwy Grantscape. Gwnaeth y Cyngor Cymuned cyfranni tuag at y prosiect yn ogystal.