Gwasanaethau Mynwent a Chladdu
Mynwent Gyhoeddus Tymbl Uchaf - Gorolwg a ffurfleni claddu
Mae’r Cyngor yn parhau i dderbyn canmoliaeth am safon golwg a chynnal a chadw’r Fynwent ac mae’r Cyngor yn cymryd ei ddyletswydd o reoli’r fynwent (gan gynnwys iechyd a diogelwch) o ddifrif. Mae ffioedd claddu gostyngol ar gyfer trigolion lleol er mwyn sicrhau chwarae teg i drethdalwyr lleol a pherthnasau agos. Cliciwch y dolenni isod am ffurflen gais ar gyfer claddu ym Mynwent Gyhoeddus Tymbl Uchaf neu fel arall cysylltwch â Clerc y Cyngor.
Ffurflen Gais ar gyfer Claddu – Mynwent Gyhoeddus Tymbl Uchaf (gan gynnwys rheoliadau’r fynwent). Am y ffioedd claddu, cliciwch ar y ddolen isod:
Mynwent Gyhoeddus Tymbl Uchaf – Ffioedd 2011-2012 Ymwrthodiad - cliciwch yma

HYSBYSEBION CYHOEDDUS YNGLYN A'R FYNWENT (scroliwch i lawr am fwy)
Medi 2011 - Hysbyseb Pwysig i perchnogion beddau/next of KIN
Mae’r Cyngor wrthi’n diweddaru ein recordiau ynglyn â pob bedd yn y fynwent a felly fyddwn yn hollol ddiolchgar pe bai perchnogwr/ next of KIN pob bedd yn cysylltu a ni asap er mwyn i ni diweddaru ein recordiau fel y ganlyn.
Oriau agor newydd y prif gatiau, o Mai 2011 ymlaen
Oriau agor y prif gatiau yw 8.45yb tan 4.15yh Dydd Llun i Dydd Gwener a 9.30yb tan 11.30yb ar Dydd Sadwrn. Ar achlysuron arbenning (ee Sul y Mamau) fydd y gatiau ar agor drwy’r penwythnos. Nodir os gwelwch yn dda fod y maes parcio wrth ymyl y Fynwent ar agor am ddefnydd yn ychwanegol i’r oriau uchod er mwyn galluogi bobl i fynd i’r fynwent drwy gerdded pan y mae’r brif gatiau ar glo.
Nodyn Cyhoeddus Mai 2010 - cliciwch fan yma
___________________________________________________
Buddsoddi diweddar ac arfaethedig ym Mynwent Gyhoeddus Tymbl Uchaf
Strategaeth Tirlunio 2007
Mae comisiynu ymgynghorwr tirlunio wedi arwain at gynhyrchu strategaeth gwella tirlun ar gyfer Mynwent Gyhoeddus Tymbl Uchaf. Mae’r Cyngor wedi gweithredu camau cyntaf y strategaeth o ran gosod cysgodfan newydd yn y Fynwent. Cliciwch yma i weld Strategaeth Tirlunio 2007.

Prosiect Balchder yn ein Mynwent 2009-2011
Gan fod rhai materion wedi dod i’r amlwg yn ystod y blynyddoedd diwethaf, penderfynwyd mabwysiadu strategaeth rheoli hirdymor ar gyfer y Fynwent. Mae’r materion hyn yn cynnwys:
-
Yr angen i ymestyn yr Ardd Goffa (ardal claddu gweddillion a losgwyd) oherwydd y bydd wedi’i llenwi o fewn 5 blynedd.
-
Materion draenio – dŵr wyneb yn y Fynwent
-
Tirlunio a gwaith trin ar y ffiniau
-
Mynediad i bobl anabl
-
Heriau topograffigol
-
Cyflwyno tu blaen deniadol sy’n wynebu’r brif heol
Ym Medi 2008, penderfynodd Pwyllgor Cyllid y Cyngor gymeradwyo Prosiect Balchder yn ein Mynwent fel prosiect cyfalaf blaenoriaethol y Cyngor ar gyfer 2009-2011. Felly, mae’r Cyngor yn ymrwymedig i ddarparu’r prosiect hwn, yn enwedig gan fod cyllid wedi cael ei roi i’r naill ochr ar ei gyfer a bod rhaglen gyfalaf yn cael ei gynllunio. Mae’r Gwasanaeth Datblygu a Rheoli Mynwentydd wedi cael ei benodi gan y Cyngor i oruchwylio datblygiad y cynllun hwn sydd werth £100,000. Gallwch weld rhai o’r cynlluniau yma: