Gwybodaeth defnyddiol

Heddlu Cross Hands

Cliciwch yma am wybodaeth ar blismona cymunedol a cyfarfodydd PACT

Cynllunio

Cliciwch yma i weld bob cais cynllunio am yr ardal ac i gael gwybodaeth ar y Cynllun Datblygu Unedol/Cynllun Datblygu Lleol am y Sir.

Llwybrau Cerdded/Hawliau Tramwy

Mae'r Cyngor Cymuned wrthi'n trafod gyda'r Cyngor Sir ynglyn â creu pamffled cerddau cymunedol i'r ardal -mwy o wybodaeth i ddilyn. Am unrhyw ymholiad ynglyn â llwybrau'r plwyf cysylltwch gyda'r Clerc - owain@ccllannon.org.uk

Casglu Sbwriel / 'Kerbside recycling'

Cliciwch yma i weld dudalennau we y Cyngor Sir

Nodyn cyhoeddus Mai 2011

Bagiau sbwriel glas ailgylchu a sachau gwastraff o'r ardd ar gael wrth Neuadd y Tymbl

Mae Cyngor Cymuned Llannon wedi dod i gytundeb gyda’r Cyngor Sir i sicrhau fydd Neuadd y Tymbl yn darparu bagiau ailgylchu glas ac yn gwerthu sachau gwastraff o’r ardd.

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma

Gwasanaethau Ieuenctid

Mae Clwb Ieuenctid Tymbl yn cwrdd bob Nos Lun yn Neuadd y Tymbl ac yn cael ei rhedeg gan y Cyngor Sir.

Gwastraff Ci

Dylid cysylltu gyda'r Cyngor Sir ar y mater yma - rhif ffon - 01267 234 567.