Cyllid, Rhoddion, Grantiau a Phrosiectau

Cyllid

Ariennir y Cyngor yn rhannol trwy dderbyniadau a thrwy eich trethi, felly mae’n ymrwymo i weithredu mewn modd proffesiynol er mwyn sicrhau ei fod yn darparu gwasanaethau sydd werth am arian i drethdalwyr yr ardal. Mae mabwysiadi polisïau allweddol megis Polisi’r Iaith Gymraeg, polisi cyfleoedd cyfartal a chysylltiadau hiliol, datganiad cydraddoldeb i bobl anabl a hefyd ei bolisi dim ysmygu yn golygu bod y Cyngor yn parhau i weithio’n unol â’r rheini sy’n gyrru deddfwriaethau a pholisïau allweddol o fewn y llywodraeth leol. Hefyd, mae’r Cyngor wedi cyflawni archwiliadau cyllidol trwyadl yn llwyddiannus sy’n sicrhau ei fod yn trosglwyddo gwasanaethau sydd werth am arian ac mae’n parhau i fod yn rhan bwysig o’r economi leol trwy ddefnyddio cynhyrchion a gwasanaethau busnesau lleol ar yr holl adegau posib. Gweler dogfennau cyllidol y Cyngor islaw ac am fwy o wybodaeth croeso i chi gysllylltu a ni.

Rheoliadau Ariannol                     Crynodeb Ariannol Mawrth 2012

Mantolen 2008-09                         Mantolen 2009-10 

Mantolen 2010-11

Cyfraniadau ariannol a grantiau

Mae’r Cyngor yn gwneud cyfraniadau ariannol i fudiadau lleol sydd wedi ceisio am gymorth cyllidol, megis Tîm Rygbi Iau Y Tymbl a chôr Mynydd Mawr am eu teithiau tramor oherwydd teimlwyd eu bod yn cynrychioli’r gymuned ac yn hyrwyddo celf a diwylliant ein hardal. Yn ogystal â hyn, cyfrannom at Eisteddfod yr Urdd ac elusennau hollbwysig megis ‘Help the Aged’, ‘Cancer Research UK’ a Shelter Cymru.

Cllr TM Evans donating a cheque Cllr TM Evans donating Llannon Community Council

2011-2012

Rhaglen Grantiau Cymunedol

Mae'r rhaglen grantiau nawr ar gau am y flwyddyn - y dyddiad cau oedd Medi 1 2011. Mae 5 grant of £300 ar gael i fudiadau o fewn yr ardal bob blwyddyn. Roedd y ffurflen gais ar gael i lawrlwytho drwy clicio yma .

Elusenau/Achosion Da

Mae croeso i elusenau ac achosion da danfon llythyron i fewn drwy gydol o flwyddyn ar gyfer ystyriaeth Aelodau'r Cyngor.

2010-2011

Rhaglen Grantiau Cymunedol

Rhedodd y Cyngor rhaglen granitau cymunedol newydd ar gyfer 2010-11. Y 4 mudiad a fu'n llwyddiannus a derbyn siec o £300 yr un yn 2010-11 oedd Sinema Cross Hands, Tim dan 12 CPD Tymbl Colts, Cyfle i Bawb a Ffermwyr Ifanc Llannon. Isod gweler y grwpiau yn cael ei sieciau oddi wrth Cyng Terry Evans, Cadeirydd y Cyngor:

Ffermwyr Ifanc Llannon Colts dan 12 pel droed y Tymbl  Cyfle i Bawb

 

2009-2010

Fe wnaeth y Cyngor wedi cefnogi llawr o fudiadau yn 2009. Fe wnaeth Clwb Ieuenctid y Tymbl dderbyn £250, Rygbi Ysgolion Mynydd £120, Henoed y Tymbl £420 ac Eisteddfod y Tymbl £400. Fe wnaeth y Cyngor hefyd cefnogi elusenau ac achosion da gan rhoi £300 yr un at Ambiwlans Awyr Cymru, Gofal Cancr Macmillan, Gofal Cancr Marie Curie a WRVS Cross Hands. Mae lluniau’r Cadeirydd Cyng Terry Evans a’r Arweinydd Cyng Lesley Williams yn cyflwyno’r rhoddion i’r mudiadau yma isod .

Donation to mynydd mawr schools rugby chairman and leader Donation to eisteddfod y tymbl chairman and leader Donation to Tumble OAP Club

Donation to Tumble Youth Club

Am rhagor o wybodaeth, neu i geisio am rhodd/grant, cyslltwch â’r Clerc.

 

Rhaglen Gyfalaf 2009-13

Byddwn ni’n darparu rhaglen gyfalaf arloesol ar raddfa fawr dros y 3 blynedd nesaf. Bydd y rhaglen hon yn cynnwys gwella Mynwent Gyhoeddus Tymbl Uchaf a darparu cyfres o brosiectau sydd wedi’u nodi yn y Cynllun Plwyfol.

Prosiect Partneriaeth Cysgodfannau Bws 50-50 - Yn ystod 2009, tynnwyd sylw’r Cyngor at faterion megis digonoldeb cysgodfannau bws yn yr ardal. Roedd plant yr ysgol leol yn cael eu heffeithio gan y tywydd garw pan oeddent yn aros am y bws ysgol. Clustnododd y Cyngor £7,500 o fewn ei raglen gyfalaf gyda’r gobaith o fod yn rhan o gynllun partneriaeth 50-50 y Cyngor Sir er mwyn gosod cysgodfannau bws newydd ym Maes Becca yn Llannon, Cwmmawr a Stryd Fawr Y Tymbl.  Cytunodd y Cyngor i gyfateb y cyllid gan wneud cyfanswm y buddsoddiad mewn cysgodfannau bws yr ardal yn £15,000. Mae hwn yn enghraifft o’r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth er lles y gymuned leol. Bwriedir gosod y cysgodfannau bws yn Hydref 2009 a mae llun Cyng Terry Evans yn cygodfan Cwmmawr isod;

Cyng Terry Evans - Tach 2009

Prosiectau parhaol a gwithgareddau

CCTV

Derbyniwyd adborth cadarnhaol iawn wrth bobl leol ynghylch golwg a swyddogaeth y teledu cylch cyfyng a fewnosodwyd yn Neuadd Y Tymbl a’r Ardd Goffa. Dim ond yn gymharol ddiweddar rhoddwyd yr awdurdod i Gynghorau fewnosod teledu cylch cyfyng, a theimlwyd, wedi ariannu gofalus, ei fod yn gam flaengar a fydd yn helpu lleddfu ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn ein cymuned.

Gyrru a strydoedd diogel

Mae’r Cyngor hefyd yn delio â goryrru yn yr ardal trwy ymgynghori â phobl leol a gydag asiantaethau statudol megis Awdurdod Priffyrdd y Sir a hefyd yr Heddlu. Mae rhai mannau penodol lle ceir goryrru wedi cael eu hadnabod, gan gynnwys Heol Bethania, ac ymgynghorir â’r Cyngor o ran sefydlu cynllun arafu traffig

Cytundebau Lefel Gwasanaeth

Mae’r Cyngor yn parhau i gynnal a glanhau llwybrau cerdded a mannau gwyrdd, ac yn ddiweddar mae wedi sicrhau cytundeb gyda’r Cyngor Sir er mwyn glanhau tanffordd Cross Hands. Roedd pobl leol o’r farn bod y tanffordd yn rhywbeth hyll, gyda sbwriel a chasbethau eraill yn casglu yno, yn enwedig ar ôl y penwythnosau. Ar hyn o bryd, mae gweithwyr llaw y Cyngor yn weithredol wrth lanhau’r ardal yn ddyddiol (gan gynnwys boreau Sadwrn a Sul) ac mae’r nifer o gwynion wedi gostwng yn aruthrol. Mae’r Cyngor o’r farn mai’r math hwn o gytundeb ‘siarter’ rhwng y Cyngor Sir a’r Cyngor Cymuned yw’r ffordd ymlaen i drosglwyddo gwasanaeth effeithiol i’n cymunedau ar lefel gymunedol.

Basgedi Blodau

Mae’r rhaglen basgedi blodau yn mynd o nerth i nerth diolch i gefnogaeth wrth fusnesau lleol. Mae’n enghraifft o brosiect cymunedol cynaliadwy oherwydd caiff ei gefnogi’n dda gan y sector preifat, a’i gynnal gan weithwyr y Cyngor.