Beth ydyn ni yn ei wneud
Mae Cyngor Cymuned Llannon yn cynnwys ardal o ryw 7479 erw (38.36 km. sgwâr) ac yn ei gweinyddu ac mae ganddi boblogaeth o ryw 5153, tua 3793 ohonynt â hawl i bleidleisio yn ei etholiadau. 
Prif ganolfannau'r boblogaeth yw pentrefi'r Tymbl, Llannon a Cross Hands. Yn ôl y ffigurau diweddaraf sydd ar gael mae 71% o'r boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg (Cyfrifiad 2001).
Mae'r Cyngor yn cynnwys 15 aelod etholedig. Cyflogir y Clerc yn rhan amser ac mae'n gweithio o gartref. Yn ychwanegol at hyn, mae'r Cyngor yn cyflogi dau lafurwr llawn amser parhaol, clerc cynorthwyol, dau lafurwr llawn amser dros dro yn ystod y tymor y mae'r porfa'n tyfu, a glanhawr rhan amser a gofalwr rhan amser gyda'r nos. Cyflogir nifer o weithwyr achlysurol hefyd fel Helpwyr Bar.
Ymhlith y prif swyddogaethau sydd gan y Cyngor, mae'r canlynol:
Rheoli canolfan gymunedol ac ystafelloedd digwyddiadau yn Neuadd y Tymbl.
Rheoli a chynnal a chadw mynwent gyhoeddus, mynwent gaeedig a dwy ardd goffa.
Cynnal a chadw gofodau agored.
Darparu a chynnal a chadw rhyw 220 o fasgedi blodau crog.
Glanhau meysydd parcio.
Goruchwylio a glanhau ardal ailgylchu.
Cynnal a chadw rhyw 60 hawl tramwy sy'n cwmpasu 40km (24.39 milltir).
Casglu sbwriel.
Ystyried materion cynllunio.
Gweithio mewn cydweithrediad ag Adran Priffyrdd y Sir ar fesurau tawelu traffig a gwelliannau i briffyrdd.
Gweithio gyda'r heddlu i ddiogelu'r gymuned.
Cyfrifoldeb tros gynnal a chadw a phweru golau ar lwybrau troed.
Darparu coed a goleuadau Nadolig bob blwyddyn.
Rhoi cymorth ariannol i fudiadau gwirfoddol ac elusennau amrywiol gan gynnwys noddi'r eisteddfod leol bob blwyddyn.
Darparu a chynnal a chadw hysbysfyrddau a seddau cyhoeddus. 
Penodi cynrychiolwyr ar gyrff lleol ac allanol niferus.
Enwebu cynrychiolwyr awdurdod llai i ysgolion cynradd ac uwchradd lleol.
Darparu a chynnal a chadw cysgodfannau bws.
Cynnal a chadw a glanhau toiledau cyhoeddus a llwybr troed tanffordd yn Cross Hands.
Rhedeg Clwb Cinio ar gyfer henoed yr ardal
sef Clwb Cinio a Chlonc yn Neuadd y Tymbl.
Darparu gwasanaethau ieuenctid mewn cydweithrediad a'r Cyngor Sir.
Commisynnu astudiaethau a gweithio mewn partneriaeth.